Psalms 81

Cân i'r Ŵyl

I'r arweinydd cerdd: Salm Asaff, ar yr alaw, "Y Gwinwryf".

1Canwch yn llawen i Dduw, ein nerth!
Gwaeddwch yn uchel ar Dduw Jacob!
2Canwch gân, taro'r drwm,
a chanu'r delyn fwyn a'r nabl!
3Seiniwch y corn hwrdd
81:3 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
ar y lleuad newydd,
ar ddechrau'r Ŵyl pan mae'r lleuad yn llawn.
4Dyma'r drefn yn Israel;
gorchymyn wedi ei roi gan Dduw Jacob.
5Rhoddodd hi'n rheol i bobl Joseff
pan ymosododd ar yr Aifft i'w gollwng yn rhydd.
Dw i'n clywed iaith dw i ddim yn ei deall –
6“Cymerais y baich oddi ar dy ysgwyddau,
a dy ollwng yn rhydd o orfod cario'r fasged.
7Dyma ti'n gweiddi yn dy argyfwng, a dyma fi'n dy achub;
atebais di o'r lle dirgel ble mae'r taranau.
Yna dy roi ar brawf wrth Ffynnon Meriba. b

 Saib
8Gwrandwch, fy mhobl, dw i'n eich rhybuddio chi!
O na fyddet ti'n gwrando arna i, Israel!
9Dwyt ti ddim i gael duw arall
na phlygu i lawr i addoli duw estron.
10Fi, yr Arglwydd ydy dy Dduw di.
Fi ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.
Agor dy geg, a bydda i'n dy fwydo!
11Ond wnaeth fy mhobl ddim gwrando.
Wnaeth Israel ddim ufuddhau i mi;
12felly dyma fi'n gadael iddyn nhw fod yn ystyfnig
a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau.
13O na fyddai fy mhobl yn gwrando arna i!
O na fyddai Israel yn fy nilyn i!
14Byddwn i'n trechu eu gelynion nhw yn syth;
ac yn ymosod ar y rhai sy'n eu gwrthwynebu nhw.”
15(Boed i'r rhai sy'n casáu'r Arglwydd wingo o'i flaen –
dyna eu tynged nhw am byth!)
16“Byddwn i'n bwydo Israel â'r ŷd gorau;
ac yn dy fodloni gyda mêl o'r graig.”
Copyright information for CYM